Gofal Preswyl i’r Henoed - Llanfairpwll
Ein nod, trwy ddefnyddio agwedd gyfannol at ofal, yw darparu gofal unigol i bob defnyddiwr gwasanaeth. Cyflawnir hyn trwy ddarparu amgylchedd saff, diogel a dymunol i gleientiaid ble gallant fyw bywyd i’r eithaf, a ble mae preifatrwydd, urddas, dewis, boddhad a hunaniaeth yn cael eu parchu.
Read More
Gofal Preswyl i’r Henoed - Pentraeth
Mae ein Cartref Gofal Preswyl yn anelu i ddarparu agwedd cefnogaeth weithredol a pherson-ganolog at ofal. Mae ein hamgylchedd diogel a dymunol yn helpu i ddarparu amgylchedd ble gall y defnyddwyr gwasanaeth fyw bywyd gweithredol a chyflawn.
Read More
Gofal Cartref Henoed
Rydym yn darparu gwasanaeth hyblyg, dibynadwy a phersonoledig i’n defnyddwyr gwasanaeth oedrannus yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r tasgau yn amrywio o orchwylion domestig, gofal personol, gwasanaethau gwarchod hyd at ofal rownd y rîl. Mae gwasanaethau rheolaidd neu ad-hoc ar gael.
Read More
Cefnogaeth i Oedolion gydag Anableddau Dysgu neu Gorfforol
Rydym yn darparu agwedd cefnogaeth weithredol at gefnogi ein defnyddwyr gwasanaeth yn eu cartrefi eu hunain ac allan yn y gymuned leol. Mae ein cynlluniau cefnogi person-ganolog wedi’u haddasu o amgylch anghenion a hoffterau’r unigolion.
Read More